Math | mosg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Al-Daraj |
Sir | Dinas Gaza |
Gwlad | Palesteina |
Arwynebedd | 1,800 m² |
Cyfesurynnau | 31.504°N 34.4644°E |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Islamaidd, Mamluk architecture, pensaernïaeth Normanaidd |
Crefydd/Enwad | Islam |
Deunydd | kurkar |
Mosg Mawr Gaza (Arabeg: جامع غزة الكبير, trawslythreniad: Jāma' Ghazza al-Kabir) a elwir hefyd yn y Mosg Mawr Omari (Arabeg: المسجد العمري الكبير, Jāmaʿ al-ʿUmarī al-Kabīr ) yw'r mosg mwyaf a'r hynaf yn Llain Gaza; fe'i lleolir yn hen ddinas Gaza. Mae'r mosg yn dal i fod ar agor, ac yn ganolfan sy'n darparu cymorth ar gyfer galar, iechyd meddwl a chorfforol i drigolion Gaza, ac yn symbol o falchder Palesteinaidd.[1]
Credir fod y mosg yn sefyll ar safle teml Philistaidd hynafol; defnyddiwyd y safle gan y Bysantaidd i godi eglwys yn y 5g, ond ar ôl y goncwest Fwslimaidd yn y 7g, cafodd ei thrawsnewid yn fosg. Disgrifiwyd yr adeilad yn "hardd" gan ddaearyddwr Arabaidd o'r 10g, cafodd minaret y Mosg Mawr ei ddymchwel mewn daeargryn yn 1033.
Yn 1149, adeiladodd y Croesgadwyr eglwys fawr, ond fe'i dinistriwyd yn bennaf gan yr Ayyubids ym 1187, ac yna ei hailadeiladu fel mosg gan y Mamluks ar ddechrau'r 13g. Fe'i dinistriwyd gan y Mongols ym 1260, yna cafodd ei adfer yn fuan dim ond iddo gael ei ddinistrio drachefn gan ddaeargryn ar ddiwedd y ganrif. Cafodd y Mosg Mawr ei adfer eto gan yr Otomaniaid tua 300 mlynedd yn ddiweddarach.
Wedi'i ddifrodi'n ddifrifol ar ôl cael ei beledu gan gannonau Lloegr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, adferwyd y mosg ym 1925 gan y Cyngor Mwslimaidd Goruchaf.
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Ma'an
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search